Rhaglen gyfrifiadurol sy' gymorth i storio a rhoi trefn ar ddata yw taenlen (Saesneg: Spreadsheet); gwnâ hynny ar ffurf tabl. Datblygodd taenlenni o ffurf bapur, analog, a ddefnyddiwyd mewn cyfrifeg (accountancy) ers y 1970au.[1][2]
Mae'r rhaglen yn gweithio drwy archwilio data a fewnbynnir i gelloedd y daenlen; gall y wybodaeth ym mhob cell fod ar ffurf testun, rhif neu ganlyniad i fformiwla sy'n cyfrifo gwerthoedd yn otomatig. Gall y fformiwlâu hyn gymryd gwybodaeth o gelloedd eraill (neu daenlenni eraill) cyn trin a thrafod y wybodaeth o fewn y fformiwla, a'i allbynmu mewn cell arall.[3][4][5]
Ar wahân i fedru cyflawni swyddogaethau rhifyddeg sylfaenol a ffwythiannau mathemategol, mae taenlenni modern hefyd yn darparu is-raglenni sy'n unedau ffwythiannol parod ar gyfer cynorthwyo gweithgaredd sy'n ymwneud ag arian ac ystadegau. Ceir mynegiant amodol hefyd yn ogystal â ffwythiannau sy'n trosi testun, rhif a hyd yn oed lluniau neu graffeg e.e. "Os yw'r tymheredd (y rhif yng nghell A14) yn uwch na 21, yna rhodder y testun "Diffodd" yng nghell A32."
LANPAR, a ddyfeisiwyd yn 1969, oedd y daenlen gyntaf i weld golau dydd, ac fe'i gweithiwyd oddi fewn i gyfrifiaduron enfawr mainframe.[6] Y daenlen gyntaf ar y microgyfrifiadur (neu'r 'cyfrifiadur personol') oedd VisiCalc, a fu'n allweddol i boblogeiddio'r Apple II.[7] Ar y system weithredol DOS, Lotus 1-2-3 oedd y mwyaf poblogaidd yn y 1980au. Yna, tua 1995, daeth Excel yn fwy poblogaidd na Lotus, gan iddo fod yn rhan o'r pecyn 'Office' gan Microsoft, ac o fewn ychydig o flynyddoedd roedd y rhaglen daenlenni mwyaf poblogaidd, drwy'r byd.[8][9][10]
A software interface consisting of an interactive grid made up of cells in which data or formulas are entered for analysis or presentation.
Release 3.0 is being written in the computer language known as C, to provide easy transportability among PCs, Macs and mainframes.