Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanasa |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.3512°N 3.3191°W |
Cod OS | SJ122846 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au y DU | Rob Roberts (Ceidwadwyr) |
Pentref yng nghymuned Llanasa, Sir y Fflint, Cymru, yw Talacre.[1][2] Saif ym mhen gogleddol eithaf y sir ar yr arfordir ar lan orllewinol Glannau Dyfrdwy, fymryn i'r de o'r Parlwr Du, a thua hanner ffordd rhwng Prestatyn i'r gorllewin a Ffynnongroyw i'r dwyrain. Mae ganddo draeth tywodlyd a sawl maes carafan gerllaw.
Tu ôl i'r pentref cyfyd bryniau cyntaf Bryniau Clwyd, gan ffurfio ymyl ddwyreiniol Dyffryn Clwyd. Ceir goleudy i'r gogledd o'r pentref, ger y Parlwr Du.
Mae Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn mynd heibio hanner milltir i'r de o'r pentref, ar y lôn iddo o bentref Gwesbyr, ond does dim gorsaf yno.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Rob Roberts (Ceidwadwyr).[4]