Enghraifft o: | enw un tiriogaeth mewn gwlad unigol |
---|---|
Math | talaith, rhaniadau gweinyddol yr Almaen, NUTS Lefel 1 (UE), is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf |
Gwlad | Yr Almaen |
Gwladwriaeth | yr Almaen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r Almaen yn weriniaeth ffederal sy'n cynnwys 16 o daleithiau ffederal a elwir yn Länder (unigol: Land).[1] Gelwir y taleithiau hyn yn anffurfiol yn Bundesländ ("Gwlad ffederal") neu'n Bundesländer ("Gwledydd Ffederal"). Mae gan yr Almaen gyfansoddiad ffederal, gan iddi gael ei chreu o nifer o weriniaethau cynharach; mae sawl un o'r taleithiau hyn yn dal i gadw rhyw elfen o annibyniaeth a sofraniaeth. Gelwrir tair ohonynt (Berlin, Bremen a Hamburg) yn aml yn Stadtstaaten (“Dinas-Daleithiau") a'r 13 sy'n weddill yn Flächenländer ("Ardal-Dalaith").
Crëwyd Gweriniaeth Ffederal yr Almaen (“Gorllewin yr Almaen”) ym 1949 trwy uno'r taleithiau gorllewinol (a oedd gynt dan weinyddiaeth America, Prydain a Ffrainc) a grëwyd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. I ddechrau, ym 1949, taleithiau'r Weriniaeth Ffederal oedd Baden (tan 1952), Bafaria (yn Almaeneg: Bayern), Bremen, Hamburg, Hesse (Hessen), Sacsoni Isaf (Niedersachsen), Gogledd Rhein-Westphalia (Nordrhein-Westfalen), Rhineland-Palatinate (Rheinland-Pfalz), Schleswig-Holstein, Württemberg-Baden (tan 1952) a Württemberg-Hohenzollern (tan 1952). Integreiddiwyd ac ystyriwyd Gorllewin Berlin yn wladwriaeth de facto, er nad oedd yn swyddogol yn rhan o'r Weriniaeth Ffederal.
Talaith | Prifddinas | |
---|---|---|
1 | Baden-Württemberg | Stuttgart |
2 | Bafaria | München |
3 | Berlin | – |
4 | Brandenburg | Potsdam |
5 | Bremen | Bremen |
6 | Hamburg | – |
7 | Hessen | Wiesbaden |
8 | Mecklenburg-Vorpommern | Schwerin |
9 | Niedersachsen | Hannover |
10 | Nordrhein-Westfalen | Düsseldorf |
11 | Rheinland-Pfalz | Mainz |
12 | Saarland | Saarbrücken |
13 | Sacsoni | Dresden |
14 | Sachsen-Anhalt | Magdeburg |
15 | Schleswig-Holstein | Kiel |
16 | Thüringen | Erfurt |