Talsarnau

Talsarnau
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth541 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9035°N 4.0646°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000099 Edit this on Wikidata
Cod OSSH612358 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Talsarnau ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ar y briffordd A496 rhwng Penrhyndeudraeth a Harlech.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Mae gan y pentref orsaf ar Reilffordd y Cambrian. Ychydig i'r gorllewin mae Traeth Bach, aber Afon Dwyryd, ac Ynys Gifftan. I'r de o'r pentref, i gyfeiriad Harlech, mae ffermdy Y Lasynys Fawr, lle ganed Ellis Wynne (1671-1734), awdur Gweledigaethau y Bardd Cwsc.

Un arall o Dalsarnau oedd y nofelydd Annie Harriet Hughes (Gwyneth Vaughan), awdures Plant y Gorthrwm, a aned yno yn 1852 yn ferch i felinydd.

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne