Llethr serth neu glogwyn hir a greir gan erydiad, ffawtiad neu gyfuniad o'r ddwy broses yw tarren neu sgarp.[1] Y prif fathau yw:
- tarren ffawt: pan bo ffawt yn dadleoli arwyneb y ddaear
- tarren ffawtlin: pan bo erydiad ar un ochr hen ffawt
- tarren ffawtlin gyfansawdd: cyfuniad o erydiad a ffawtiad
- tarren erydol: pan bo toriad fertigol neu flaen-erydu'r pedimentau.[2]
- ↑ sgarp. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Hydref 2016.
- ↑ (Saesneg) "scarp" yn A Dictionary of Earth Sciences (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1999).