Math | talaith o fewn Awstralia |
---|---|
Enwyd ar ôl | Abel Tasman |
Prifddinas | Hobart |
Poblogaeth | 539,590 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Jeremy Rockliff |
Cylchfa amser | UTC+10:00, UTC+11:00, Australia/Hobart |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Awstralia |
Sir | Awstralia |
Gwlad | Awstralia |
Arwynebedd | 68,401 ±1 km² |
Uwch y môr | 1,009 metr |
Yn ffinio gyda | Victoria |
Cyfesurynnau | 42°S 147°E |
AU-TAS | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Tasmania |
Corff deddfwriaethol | Senedd Tasmania |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Rhaglaw Tasmania |
Pennaeth y wladwriaeth | Barbara Baker |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Tasmania |
Pennaeth y Llywodraeth | Jeremy Rockliff |
Ynys a thalaith yng Nghymanwlad Awstralia (neu Awstralia) yw Tasmania (Tasmanieg: Lutruwita). Mae cyfandir Awstralia yn gorwedd i’r gogledd o’r ynys a'r Antarctig i’r de ohoni. I'r dwyrain, rhwng yr ynys a Seland Newydd, ceir Môr Tasman. Cafodd ei enwi ar ôl y fforiwr o'r Iseldiroedd, Abel Janszoon Tasman. Tasmania yw'r chweched ar hugain fwyaf o ynysoedd y byd yn ddaearyddol. Mae 484,700 o bobl yn byw yn Nhasmania (Mawrth 2005, ABS).
Prifddinas Tasmania yw Hobart. Mae dinasoedd eraill yn cynnwys Launceston yn y gogledd a Devonport a Burnie yn y gogledd-orllewin.