Tassili n'Ajjer

Tassili n'Ajjer
Mathcadwyn o fynyddoedd, safle archaeolegol, parc cenedlaethol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolTassili Cultural Park, Algerian Desert, Sahara Edit this on Wikidata
SirTalaith Illizi, Djanet Province Edit this on Wikidata
GwladBaner Algeria Algeria
Arwynebedd72,000 km², 7,200,000 ha Edit this on Wikidata
Uwch y môr2,158 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau25.6667°N 9°E Edit this on Wikidata
Hyd800 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd, safle Ramsar Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddcraig waddodol Edit this on Wikidata
Lluniau ar fur cysgodfa dan graig, Tassili n'Ajjer, Sahara

Mynyddoedd creigiog anial yng nghanol y Sahara sy'n cynnwys rhai o'r safleoedd cynhanesyddol pwysicaf ar gyfandir Affrica yw'r Tassili n'Ajjer. Gorwedd y mynyddoedd i'r gogledd-ddwyrain o fynyddoedd Al Hoggar yn ne-ddwyrain Algeria, yn agos i'r man lle mae ffiniau Libia, Algeria a Niger yn cwrdd. Daethpwyd â safleoedd archaeolegol y Tassili a'u trysorau i sylw'r byd tu allan gan yr archaeolegwr o Ffrainc Henri Lhote, ddiwedd y 1950au. Mae safleoedd y Tassili yn rhan o ardal ddiwylliannol gynhanesyddol ehangach sy'n cynnwys yr Hoggar a'r cylch.

Mae'r darluniau cynhanesyddol sydd ar furiau ogofâu a chysgodfeydd yn y Tassili yn dangos fod poblogaeth bur sylweddol yn byw bywyd hela a chodi gwartheg yno filoedd o flynyddoedd yn ôl, a bod yr hinsawdd a'r tyfiant yr adeg hynny yn debyg i'r hyn a geir yn y Sahel heddiw (dros fil o filltiroedd i'r de). Mae rhai o'r lluniau yn ogofâu'r Tassili yn dangos afonfeirch (hippopotamus) a phreiddiau anferth o wartheg cyrn hir, a hynny mewn ardal sydd bellach yn anialdir llwyr.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne