Tatariaid Siberia

Tatariaid Siberia yn dathlu gŵyl ddiwylliannol yn 2014

Grŵp ethnig Tyrcig sydd yn frodorol i Orllewin Siberia yw Tatariaid Siberia. Maent yn siarad Tatareg Siberia, iaith Dyrcaidd o'r gangen Kipchak–Nogai sydd yn debyg i'r Gasacheg.

Maent yn disgyn o lwythau Wgrig, Samoied, a Thyrcig, ac i raddau llai pobloedd Iranaidd a Mongolaidd.[1]

  1. (Saesneg) "Siberian Tatars" yn Encyclopedia of World Cultures. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 8 Rhagfyr 2021.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne