Math | cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 1,562, 1,500 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 2,964.74 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.80739°N 3.66865°W ![]() |
Cod SYG | W04000345 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
![]() | |
Cymuned ym Mhowys, Cymru, yw Tawe Uchaf. Lleolir y gymuned yn ardal Brycheiniog i'r gogledd-ddwyrain o Ystradgynlais ac ar hyd rhan uchaf dyffryn Afon Tawe. Mae'n cynnwys pentrefi Coelbren, Cae Hopkin, Ynyswen a Phen-y-cae. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,516.
Ceir nifer fawr o ogofâu yn y gymuned; yr enwocaf ohonynt yw Ogofâu Dan-yr-Ogof, un o'r systemau ogofâu mwyaf yng ngorllewin Ewrop ac atyniad poblogaidd i ymwelwyr. Mae'r Cerrig Duon yn gasgliad pwysig o henebion o Oes yr Efydd. Yn y gymuned yma hefyd y mae plasdy enwog Craig-y-nos, a adeiladwyd yn 1841 ac a brynwyd gan y gantores Adelina Patti yn 1878. Mae cloddio glo brig yn bwysig yn yr ardal.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[2]