Teatro di San Carlo

Teatro di San Carlo
Mathtŷ opera, theatr Eidalaidd, sefydliad diwylliannol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 4 Tachwedd 1737 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirNapoli Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Cyfesurynnau40.837388°N 14.249687°E Edit this on Wikidata
Cod post80132 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethased diwylliannol yr Eidal Edit this on Wikidata
Manylion

Tŷ opera yn Napoli, yr Eidal yw'r Teatro di San Carlo. Weithiau fe'i gelwir yn Teatro San Carlo neu'n syml y San Carlo. Ystyr ei enw yw Theatr Sant Siarl. Pan gafodd ei adeiladu gyntaf hwn oedd y tŷ opera mwyaf yn y byd. Heddiw, mae'n dal i fod yn un o'r tai opera mwyaf yn yr Eidal. Dyma hefyd y lleoliad hynaf sy'n weithredol yn barhaus ar gyfer opera yn y byd, ar ôl agor ym 1737, ddegawdau cyn naill ai La Scala ym Milan neu La Fenice yn Fenis.[1] Perfformiwyd llawer o operâu gyntaf yn y Teatro di San Carlo. Perfformiwyd dau ar bymtheg o operâu Donizetti ac wyth o operâu Rossini yno gyntaf.[2]

  1. Gwefan y Theatr The Theatre and its history Archifwyd 2020-10-01 yn y Peiriant Wayback adalwyd Medi 23 2020
  2. Opera Vision TEATRO DI SAN CARLO Archifwyd 2020-09-26 yn y Peiriant Wayback adalwyd 23 Medi 2020

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne