Enghraifft o: | mesuriad o debygolrwydd |
---|---|
Math | gwrthrych mathemategol, nifer (diddimensiwn), possibility |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Tebygolrwydd yw'r dull o fesur y posiblirwydd o rywbeth i ddigwydd. Er enghraift, mae'r posiblirwydd fod yr haul am godi fory'r bore'n eithaf uchel a byddai mathemategwr yn mesur hyn drwy ganran fel 99.99%. Ar y llaw arall, mae'r posibilrwydd o daflu ceiniog a'r 'gynffon' (neu'r 'pen') yn glanio ar ei hwyneb yn 50% neu'n 50-50. Mae 'tebygolrwydd', felly yn mesur pa mor debygol yw hi fod cynnig yn wir. Tebygolrwydd digwyddiad yw rhif rhwng 0 ac 1, lle, yn fras, mae 0 yn nodi amhosibilrwydd y digwyddiad ac 1 yn nodi sicrwydd.[1][2]
Defnyddir tebygolrwydd yn aml i fesur neu i ateb gosodiad sy'n cael ei wneud ble mae'r ateb yn ansicr.[1] Fel arfer, mae'r gosodiad yn cael ei roi yn y dull hwn: "Pa bryd ma'n debyg o ddigwydd?" neu "Pa mor bendant ydym ei fod am ddigwydd?" Ac mae'r ateb yn cael ei roi mewn rhif, rhwng 0 ac 1 - gyda 0 yn golygu "dim o gwbwl", .5 yn golygu un allan o ddau (neu 50-50) ac 1 yn golygu "yn bendant".[2]
Mae cwmnïau yswiriant yn defnyddio rhaglenni rhifiadol ar gyfer dadansoddi actiwaraidd. Tad gwyddoniaeth actiwaraidd bydeang oedd William Morgan (1750 - 1833) o Ben-y-bont ar Ogwr, Sir Forgannwg ac un o golofnau mawr The Equitable Life Assurance Society a'r Scottish Widows. Bu farw yn Stamford Hill, Llundain ar 4 Mai 1833 a chladdwyd ef yn Hornsey. Yn 2020 cyhoeddwyd cyfrol am William Morgan yng nghyfres Gwyddonwyr Cymru Gwasg Prifysgol Cymru gan Nicola Bruton Bennetts, gor-gor-gor-wyres William Morgan.[3] Cyhoeddodd Nicola Bruton Bennetts erthygl am William Morgan (perthynas pell iddi) yn Y Bywgraffiadur Cymreig.
Felly, po uchaf yw'r tebygolrwydd i rywbeth ddigwydd, y mwyaf pendant ydym y gwnaiff ddigwydd.
Ffurfiolwyd y cysyniadau hyn o fewn gwirebau mathemategol yn yr hyn a elwir yn 'ddamcaniaeth tebygolrwydd' a gwirebau tebygolrwydd (probability axioms) a chânt eu defnyddio'n helaeth o fewn y meysydd astudio: mathemateg, ystadegau, cyllid, arian, gamblo, gwyddoniaeth (yn enwedig Ffiseg), gwyddoniaeth gyfrifiadurol, roboteg ac athroniaeth. Fe'u defnyddir er mwyn cyfrifo amlder y digwyddiad neu i ddisgrifio mecaneg gwaelodol system cymhleth, arbennig.[4]