Technoleg filwrol

Maes o dechnoleg sy'n ymwneud ag arfau, offer, strwythurau, a cherbydau a ddefnyddir gan luoedd milwrol yw technoleg filwrol. Gellir ei rhannu'n bum categori:

  1. Arfau ymosodol, sy'n niweidio'r gelyn;
  2. Arfau amddiffynnol, sy'n atal ymosodiadau'r gelyn;
  3. Technoleg cludiant, sy'n symud milwyr ac arfau;
  4. Cyfathrebu, sy'n cyd-drefnu symudiadau lluoedd arfog; a
  5. Synwyryddion, sy'n canfod lluoedd ac yn danfon arfau.[1]
  1. (Saesneg) military technology. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Ionawr 2014.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne