Ted Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 17 Awst 1930 Mytholmroyd |
Bu farw | 28 Hydref 1998 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, cyfieithydd, nofelydd, dramodydd, astroleg, awdur ffuglen wyddonol, awdur plant, llenor |
Swydd | Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig |
Cyflogwr | |
Prif ddylanwad | Czesław Miłosz, William Blake, John Donne, Gerard Manley Hopkins, T. S. Eliot, Arthur Schopenhauer, Robert Graves |
Priod | Sylvia Plath, Carol Hughes |
Plant | Frieda Hughes, Nicholas Hughes |
Gwobr/au | Gwobr Aur y Frenhines am Farddoniaeth, Urdd Teilyngdod, OBE, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Gwobr y Guardian am waith Ffeithiol i Blant, Torch Aur, Cymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Somerset Maugham, T. S. Eliot Prize, Gwobr Hawthornden, Heinemann Award |
Awdur a bardd Seisnig a sgwennai ar gyfer oedolion a phlant oedd Edward James Hughes (Ted Hughes) OM (17 Awst 1930 – 28 Hydref 1998). Adnabyddir gan feirniaid llenyddol fel un o lenorion gorau ei oes.[1]
Priododd y bardd Americanaidd Sylvia Plath yn 1956, ond fe hunanladdodd hi yn 1963 yn ddim ond 30 oed. Daeth ei ran y berthynas yn ddadleuol, yn ranol oherwydd rhai ffeminyddion ac yn arbennig, edmygwyr Amercanaidd Plath, a aeth mor bell hyd yn oed ai gyhuddo o lofruddiaeth.[2] Ni gymerodd Ted Hughes ei hun, ran yn y dadleuon yn gyhoeddus, ond dadlenodd y Birthday Letters (1998), eu perthynas cymhleth, ac i nifer, rhoddwyd ef mewn golau gwell o'i herwydd.[3]
Fe'i penodwyd yn Fardd Llawryfog ym 1984, yn dilyn marwolaeth John Betjeman ac fe'i olynwyd gan Andrew Motion wedi marwolaeth Hughes.
Porteadwyd ef yn 2003 gan yr actor Daniel Craig yn y ffilm Sylvia, ffilm fywgraffiadol am Sylvia Plath.