Teledu clyfar

Teledu clyfar
MathSet deledu, smart device, smart appliance, offeryn ar gyfer y cartref Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Teledu clyfar LG Electronics a laniswyd yn Rhagfyr 2011.

Mae'r teledu clyfar (Saesneg: smart tv neu connected tv) yn caniatáu i ddau fath gwahanol o dechnoleg uno gyda'i gilydd mewn un set neu focs, fel mae'r ffôn clyfar yn ei wneud. Mae'n caniatáu i'r defnyddiwr weld (a chlywed) ffilmiau, rhaglenni, drwy'r we ond hefyd mae'n cynnig y sianeli teledu arferol megis Sky, BBC (drwy iPlayer) a Freeview. Gall y defnyddiwr hefyd drin a thafod ffeiliau personol megis lluniau a fideo mae wedi'u creu eu hun drwy gysylltu'r teledu clyfar â'i gyfrifiadur neu gyda dyfais storio gwybodaeth megis y co-bach. Yr "arwyneb" a ddefnyddir i uno'r ddau dechnoleg ac i wneud y fforio'n hawdd yw'r hyn a elwir yn EPG.

Erbyn 2012 roedd y dechnoleg hwn ar gael nid yn unig ar gyfer teledai Haen 1 (sef y teledai drud gan gwmnïau mawrion fel LG Electronics a ddyfeisiodd y teledu clyfar cyntaf yn 2007 a Samsung (Samsung Smart TV) ond hefyd ar deledai Haen 2 gan gwmnïau megis InView Technology. Fis Mawrth 2012, dechreuodd Argos werthu teledai a bocsys rhad gan InView am y tro cyntaf.[1]

  1. ["Gwefan (Saesneg) InView; adalwyd 07 Mawrth 2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-11-20. Cyrchwyd 2012-03-07. Gwefan (Saesneg) InView; adalwyd 07 Mawrth 2012]

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne