Math | adeilad |
---|---|
Agoriad swyddogol | 29 Mehefin 1960 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Hammersmith a Fulham |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.5099°N 0.2263°W |
Cod OS | TQ2319580485 |
Perchnogaeth | BBC |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Adeilad yn White City yng ngorllewin Llundain yw Television Centre (TVC). Roedd yn gyn-bencadlys teledu i'r BBC. Cafodd ei hagor yn swyddogol ar 29 Mehefin 1960 a dyma oedd un o'r adeiladau cyntaf yn y byd ar gyfer cynhyrchu a darlledu rhaglenni teledu.
Daeth y rhan fwyaf o gynnyrch teledu cenedlaethol a rhyngwladol y BBC o'r Ganolfan Deledu, yn ogystal â Radio 5 Live ac, o 1998 ymlaen, y mwyafrif o raglenni newyddion y gorfforaeth. Ar 21 Medi 2010, cyhoeddodd Cyfarwyddwr Gweledigaeth y BBC, Jana Bennett, y byddai'r BBC yn stopio darlledu o Ganolfan Deledu'r BBC yn 2013.[1]
Yn 2012–2013 symudodd yr adrannau radio a theledu i Broadcasting House yng nghanol Llundain, fel rhan o ad-drefnu cyfleusterau'r BBC. Gwerthwyd y safle yn 2012 ac ail-ddatblygwyd y swyddfeydd i fflatiau a gwestai/bwytai. Cadwyd y 3 stiwdio teledu mwyaf ac fe'i uwchraddiwyd. Maent yn cael eu gweithredu gan BBC Studioworks. Ers 2018 mae ITV yn llogi dau stiwdio yn barhaol ers iddynt symud o ganolfan ITV yn 'The London Studios' ar y South Bank.
Am fod yr adeilad wedi bod yn gefnlen i nifer o raglenni'r BBC dros y blynyddoedd, fe'i ystyrir yn un o'r cyfleusterau hawsaf i'w adnabod unrhyw le.
Yn sgîl cynnydd sydyn ym mhrisiau adeiladau yn yr ardal leol, a achoswyd gan y ganolfan siopa arfaethedig Westfield, ystyriwyd fod yr adeilad mewn perygl. Mae bellach wedi cael ei amddiffyn rhag cael ei ddymchwel. Mewn cyhoeddiad ym mis Gorffennaf 2009 am y bwriad i amddiffyn yr adeilad, dywedodd gweinidog pensaernïaeth y llywodraeth Barbara Follett mai yno y crëwyd rhaglenni megis Doctor Who, Fawlty Towers a Blue Peter am y tro cyntaf. "It has been a torture chamber for politicians, and an endless source of first-class entertainment for the nation—sometimes both at the same time."[2]