![]() | |
Math | volcanic island, endid tiriogaethol gweinyddol, cyrchfan i dwristiaid ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 955,063 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Canary Islands ![]() |
Lleoliad | Cefnfor yr Iwerydd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 2,034 km² ![]() |
Uwch y môr | 10 metr ![]() |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd ![]() |
Cyfesurynnau | 28.2686°N 16.6056°W ![]() |
![]() | |
Ynys sy'n un o'r Ynysoedd Dedwydd yw Tenerife. Gyda La Palma, La Gomera ac El Hierro, mae'n ffurfio talaith Santa Cruz de Tenerife yng nghymuned ymreolaethol yr Ynysoedd Dedwydd, Sbaen. Gyda phoblogaeth o 865,070, hi yw'r ynys fwyaf poblog yn Sbaen.
Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw Santa Cruz de Tenerife, sydd hefyd yn brifddinas y dalaith a hefyd yn brifddinas y gymuned ymreolaethol ar y cyd a Las Palmas de Gran Canaria. Yr ail ddinas ar yr ynys yw San Cristóbal de La Laguna, sy'n Safle Treftadaeth y Byd.
Mae'r ynys wedi ei ffurfio gan losgfynyddoedd. Yr uchaf o'r rhain, a'r copa uchaf yn Sbaen, yw Pico de Teide.
Ystyrir traethau Los Cristianos ymysg rhai o draethau gorau'r ynys ac mae canolfan Playa de Las Teresitas (traeth y Saeson) yn cynnig bywyd nos bywiog iawn. Mae gan Tenerife gyfleusterau golff gwych ac mae gan yr ynys draddodiad hir o chwaraeon.