Teresa Helena Higginson | |
---|---|
Ganwyd | 27 Mai 1844 Treffynnon |
Bu farw | 15 Chwefror 1905 Chudleigh |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | athro, cyfrinydd |
Cyfrinydd Catholig oedd Teresa Helena Higginson (27 Mai 1844 – 15 Mawrth 1905[1]).
Ganwyd Higginson yn Nhreffynnon yn 1844, cyn symud i Gainsborough a Neston, Lloegr.[2] Aelodau o'r Eglwys Gatholig Rufeinig oedd ei rhieni: Robert Francis Higginson oedd ei thad a Mary (neé Bowness) o Cumbria oedd ei mam. Cyfarfu ei rhieni yn Iwerddon, a phriododd y ddau yno yn Loughlyn, Roscommon yn Hydref 1841. Gan fod y fam yn feichiog, daeth y ddau i Drefynnon i eni'r plentyn. Fe'i galwyd yn Teresa ar ôl Santes Teresa o Ávila a Helena ar ôl santes o'r un enw a sefydlodd 'Groes y Gwirionedd'.
Derbyniodd Teresa ei haddysg gynnar mewn ysgol Gatholig yn Nottingham. Yn oedolyn, bu'n byw yn: Bootle, Clitheroe, Caeredin a Chudleigh yn Nyfnaint ble y bu farw.[3]
Drwy gydol ei bywyd roedd ei dwylo a'i thraed yn gwaedu, nodwedd a elwir heddiw'n stigmata.[2]
Bu farw yn Chudleigh a chafodd ei disgrifio gan yr Eglwys Gatholig Rufeinig fel "Morwyn Duw".[4]
Ysgrifennwyd bywgraffiad o Teresa gan yr Arglwyddes Cecil Kerr ac fe'i cyfrifir fel y gwaith pwysicaf ar y gyfrinydd. Sylfaenwyd y bywgraffiad ar nifer o lythyrau gan Teresa ac ar dystiolaeth cynradd ychwanegol.