Terry Griffiths | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Terence Martin Griffiths ![]() 16 Hydref 1947 ![]() Llanelli ![]() |
Bu farw | 1 Rhagfyr 2024 ![]() Llanelli ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | chwaraewr snwcer ![]() |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | OBE ![]() |
Gwefan | https://www.terrygriffithssnooker.com/ ![]() |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru ![]() |
Chwaraewr snwcer o Gymru oedd Terry Griffiths (16 Hydref 1947 – 1 Rhagfyr 2024).[1]
Cafodd ei eni yn Llanelli. Cyn troi yn chwaraewr snwcer proffesiynol yn 1978 roedd yn bostman yn y dre a gwerthwr yswiriant. O fewn blwyddyn ennillodd pencampwriaeth y byd yn 1979, a gynhaliwyd yn y Crucible yn Sheffield. Curodd Eddie Charlton yn y rownd gyn-derfynol a Dennis Taylor yn y rownd derfynol. O ganlyniad ef oedd y chwaraewr cyntaf erioed i ennill Pencampwriaeth Snwcer y Byd a oedd wedi dechrau'r bencampwriaeth yn y rowndiau rhagbrofol.
Roedd yn rhedeg ei glwb snwcer ei hun yn Llanelli a Chaerfyrddin a bu'n hyfforddi Mark Williams, Stephen Hendry a Matthew Stevens. Ar ôl ymddeol o’r gamp, daeth yn sylwebydd a dadansoddwr gyda’r BBC.