Tesla Model X | |
---|---|
![]() | |
Trosolwg | |
Gwneuthurwr | Tesla Motors |
Cynhyrchu | 2015–presennol |
Sawl blwyddyn | 2016–presennol |
Gosod | Ffatri geir Tesla Moters; yn Fremont, California |
Cynllunydd | Franz von Holzhausen[1] |
Corff a siasi | |
Dosbarth | Crossover SUV - car llawn ei faint |
Math o gorff | 5-drws[2] sport utility vehicle (SUV) |
Perthnasol | Tesla Model S |
Pwer | |
Modur trydan | Dau Fodur AWD 90D 259 hp (193 kW) blaen a chefn P90D 259 hp (193 kW) ffrynt, 503 hp (375 kW) cefn |
Trosglwyddiad | blwch gêr un-cyflymder trawsechel |
Dim ond ar drydan | 90D 90 kWh (320 MJ) 257 mi (414 km) (EPA)[3] P90D 90 kWh (320 MJ) 250 mi (400 km) (EPA)[3] |
Maint | |
Pellter rhwng echelydd (Wheelbase) | 120.5 mod (3,061 mm) |
Hyd | 198.0 mod (5,029 mm) |
Lled | 78.7 mod (1,999 mm)[4] |
Uchder | 66.3 mod (1,684 mm) |
Car trydan llawn ei faint SUV crossover ydy Tesla Model X, a gynhyrchir gan Tesla Motors. Mae ganddo ddrysau sy'n codi i fyny (falcon wing) er mwyn cael mynediad i'r ail a'r trydydd rhes o seddi ac mae'n yrriant 4-olwyn. Lansiwyd y cynlluniau yn stiwdios Tesla yn Los Angeles ar 9 Chwefror 2012.[5] Ei chwaer fach yw'r Tesla Model S.
Yn ôl Asiantaeth Gwarchod Amgylchedd yr UDA (iaith wreiddiol: United States Environmental Protection Agency (EPA)) gall deithio rhwng 250–257 milltir (402–414 km) ar un llenwad o'i fatris a dywedir fod ei gyfradd milltir/galwyn (myg) ynghyd â'i ddefnydd i ynni yn gyfystyr (e) i 89 myg-e (23 kWh/100 km or 39 kWh/100 mi).[6] Yn 2016, mewn cymhariaeth, roedd y Toyota Prius yn cyflawni 95 myg-e.[7]
Ceir sawl math: 75D (tua £82,380, 90D, P90D/Ludi a'r P100D/Ludi (tua £129,080).[8]
Addasiad o'r Tesla Model S ydyw, gyda'r ddau fath yn cael eu cynhyrchu yn ffatri Tesla yn Fremont, California. Dechreuwyd gwerthu Model X ym Medi 2015,[9] ac yn ystod y 12 mis cyntaf roedd tua 2,700 uned wedi'u gwerthu.[10]
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw ModelX90EPA