Cantref Tewdos, a elwir hefyd Y Cantref Mawr, oedd un o dri chantref Brycheiniog yn yr Oesoedd Canol. Gorweddai i'r de o afon Wysg. Mae tiriogaeth y cantref yn uchel a mynyddig ac yn cynnwys rhan helaeth o Fannau Brycheiniog.
Ffiniai Cantref Tewdos, ym Mrycheiniog ei hun, â Chantref Selyf) i'r gogledd a'r trydydd gantref, a elwir weithiau'n Bencelli, i'r dwyrain. I'r gorllewin ffiniai ag Ystrad Tywi ac i'r de â chantrefi a chymydau ucheldir Morgannwg.
Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol rhanwyd y cantref yn dri chwmwd, yn ôl y rhestr o gantrefi a chymydau yn Llyfr Coch Hergest, sef :
Canolfannau pwysicaf y cantref yn yr Oesoedd Canol Diweddar oedd Aberhonddu a Chastell Camlais.