Math | teyrnas, gwlad ar un adeg ![]() |
---|---|
Prifddinas | Castletown, Ynys Manaw ![]() |
Sefydlwyd | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Old Icelandic, Manaweg, Gaeleg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Gerllaw | Môr Iwerddon, Moryd Clud ![]() |
Teyrnas Lychlynaidd a fodolodd rhwng 1079 a 1266 oedd Teyrnas Manaw a'r Ynysoedd (Hen Norseg: Suðr-eyjar and Norðr-eyjar "Ynysoedd y De ac Ynysoedd y Gogledd").
Rhennid y deyrnas yn ddwy ran, Sodor (Suðr-eyjar), neu Ynysoedd y De (Ynysoedd Heledd ac Ynys Manaw), a Norðr (Norðr-eyjar), neu Ynysoedd y Gogledd (Orkney a Shetland). Yn 1164 ymrannodd yn ddwy deyrnas ar wahân, sef Teyrnas Ynysoedd Heledd a Theyrnas Manaw. Ei phrifddinas de facto oedd Castletown, Ynys Manaw, prif sedd Brenin Manaw a'r Ynysoedd.
Hen Norseg a Manaweg oedd prif ieithoedd y deyrnas.
Cristnogaeth oedd y grefydd swyddogol, er ei bod yn bosibl fod pocedi o amldduwiaeth wedi dal allan mewn rhannau anghysbell o'r diriogaeth am gyfnod (roedd y Llychlynwyr yn hwyrfrydig i droi at y Gristnogaeth). Hyd heddiw, teitl swyddogol Esgob Ynys Manaw yw Esgob Sodor a Manaw.