The Aristocats

The Aristocats
Cyfarwyddwr Wolfgang Reitherman
Cynhyrchydd Winston Hibler
Wolfgang Reitherman
Cerddoriaeth George Bruns
Robert B. Sherman
Richard M. Sherman
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Buena Vista Distribution
Dyddiad rhyddhau 24 Rhagfyr, 1970
Amser rhedeg 78 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg, Ffrangeg

Ffilm animeiddiedig gan Disney yw The Aristocats (Cyfieithiad swyddogol Cymraeg:"Y Cathod Crach"[1]) (1970). Mae'n serennu Eva Gabor a Phil Harris, gyda Roddy Maude-Roxby fel Edgar y bwtler, sef dihiryn y stori. Dyma oedd yr ugeinfed ffilm animeiddiedig yng nghyfres Clasuron Animeiddiedig Walt Disney. Mae'r ffilm yn seiliedig ar stori gan Tom McGowan a Tom Rowe, ac mae'n adrodd hanes teulu o gathod pendefig, a sut y mae cath gyffredin yn eu cynorthwyo ar ôl i'r bwtler eu herwgipio er mwyn cael gafael ar gyfoeth eu perchennog, sy'n bwriadu gadael popeth i'w chathod. Yn wreiddiol, rhyddhawyd y ffilm mewn sinemau gan Buena Vista Distribution ar 11 Rhagfyr, 1970. Mae teitl y ffilm yn chwarae ar y gair aristocrats.

Mae'r ffilm yn nodedig am mai dyma oedd y ffilm olaf i Walt Disney ei hun ei chymeradwyo, oherwydd bu farw ef ar ddiwedd 1966, cyn i'r ffilm gael ei rhyddhau. Derbyniodd adolygiadau caboladwy a bu'n llwyddiant masnachol.

  1. http://www.st-davids-press.co.uk/Y%20Ddraig%20Fach/cathod.htm

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne