Tudalen deitl The Bard gyda llun dyfrlliw (tua 1787) gan William Blake (1757–1827), un o gyfres o 14 dalen gan Blake yn darlunio cerdd Gray | |
Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Thomas Gray |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 8 Awst 1757 |
Dechrau/Sefydlu | 1757 |
Genre | Pindaric ode |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cerdd Saesneg gan y bardd o Sais Thomas Gray (1716–1771) yw The Bard: A Pindaric Ode am Gyflafan y beirdd.
Cyfansoddodd Gray y gerdd yn ystod y blynyddoedd 1754–57 a'i chyhoeddi gyntaf ynghyd â'r cerdd The Progress of Poesy yn y llyfryn Odes by Mr. Gray (Llundain, 1757). Cafodd The Bard ddylanwad pwysig ar feirdd ac arlunwyr y Mudiad Rhamantaidd ac anogodd ddiddordeb cyffredinol mewn hynafiaeth Geltaidd.