Enghraifft o: | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Richard Dawkins |
Cyhoeddwr | Bantam Press, Q4201293, Qanun |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 2 Hydref 2006 |
Genre | gwyddoniaeth, athroniaeth, crefydd |
Rhagflaenwyd gan | The Ancestor's Tale |
Olynwyd gan | The Greatest Show on Earth: The Evidence for Evolution |
Prif bwnc | criticism of religion, anffyddiaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Llyfr ffeithiol gan y biolegydd esblygiadol Richard Dawkins yw The God Delusion, a fu'n 'werthwr gorau' yn 2006.[1][2] Mae Dawkins yn athro cymrawd Coleg Newydd, Rhydychen, a deilydd cyntaf Cadair Charles Simonyi am Ddealltwriaeth Cyhoeddus o Wyddoniaeth ym Mhrifysgol Rhydychen.
Yn The God Delusion, mae Dawkins yn dadlau ei fod bron yn sicr nad oes creawdwr goruwchnaturiol yn bodoli, ac fod credu mewn duw personol yn rhithdyb. Mae'n llawn cydymdeimlad â sylw Robert Pirsig yn Lila: An Inquiry into Morals, "pan mae un person yn dioddef o rhithdyb gelwir hyn yn ynfydrwydd. Pan mae nifer o bobl yn dioddef o rithdyb caiff ei alw'n grefydd."[3][4]
Hyd at fis Tachwedd 2007, gwerthodd y fersiwn Saesneg o The God Delusion dros 1.5 miliwn copi ac mae wedi cael ei gyfieithu i 31 o ieithoedd eraill.[5] Rhestrwyd y gyfrol yn ail ymysg gwerthwyr gorau Amazon.com] ym mis Tachwedd 2006.[6][7] Cyrhaeddodd y bedwaredd safle ar restr gwerthwyr gorau y New York Times yn mis Rhagyr 2006 wedi treulio naw wythnos ar y rhestr.[8] Arhosodd ar y rhestr am 51 wythnos hyd 30 Medi 2007.[9] Atynnodd sylwebaeth eang ac ysgrifennwyd llyfrau mewn ymateb iddo.