The Newsroom | |
---|---|
![]() | |
Genre | Drama wleidyddol |
Crëwyd gan | Aaron Sorkin |
Serennu | Jeff Daniels Emily Mortimer John Gallagher, Jr. Alison Pill Thomas Sadoski Dev Patel Olivia Munn Sam Waterston |
Cyfansoddwr y thema | Thomas Newman |
Gwlad/gwladwriaeth | Yr Unol Daleithiau |
Iaith/ieithoedd | Saesneg |
Nifer cyfresi | 3 |
Nifer penodau | 25 |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 52-60 munud 73 munud (peilot) |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | HBO |
Rhediad cyntaf yn | 24 Mehefin, 2012 - 14 Rhagfyr, 2014 |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol |
Mae The Newsroom yn gyfres ddrama wleidyddol ar gyfer y teledu a grëwyd ac a ysgrifennwyd yn bennaf gan Aaron Sorkin. Darlledwyd y gyfres am y tro cyntaf ar HBO ar 24 Mehefin 2012 a daeth i ben ar 14 Rhagfyr 2014, yn cynnwys 25 pennod dros dair cyfres.[1] Mae'r gyfres yn ymwneud â bywyd a digwyddiadau ystafell newyddion sianel ddychmygol Atlantis Cable News (ACN). Ymhlith y prif actorion mae Jeff Daniels fel y prif ddarlledwr newyddion.