![]() Poster Ffilm Wreiddiol | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Henry Selick |
Cynhyrchydd | Tim Burton Denise DiNovi |
Ysgrifennwr | Tim Burton (stori) Caroline Thompson (sgreenplay) Michael McDowell (adaptation) |
Serennu | Chris Sarandon Danny Elfman Catherine O'Hara William Hickey Glenn Shadix Paul Reubens |
Cerddoriaeth | Danny Elfman |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Touchstone Pictures |
Dyddiad rhyddhau | 22 Hydref 1993 |
Amser rhedeg | 76 munud |
Gwlad | UDA |
Iaith | Saesneg |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Ffilm ffantasi gerddorol animeiddiedig 1993 a gynhyrchwyd ac ysgrifennwyd gan Tim Burton yw The Nightmare Before Christmas ("Yr Hunllef o Flaen Nadolig"). Cyfarwyddwyd gan Henry Selick gyda cherddoriaeth gan Danny Elfman. Mae'r ffilm yn seiliedig ar gymeriadau a stori gwreiddiol Burton. Adrodda hanes Jack Skellington, sy'n dod o "Dref Calan Gaeaf" sy'n agor porthol o "Dref Nadolig". Darparodd Danny Elfman lais canu Jack, yn ogystal â chymeriadau bychain eraill. Darparwyd lleisiau gweddill y prif gast gan Chris Sarandon, Catherine O'Hara, William Hickey, a Glen Shadix.
Dechreuodd The Nightmare Before Christmas gyda cherdd gan Burton pan oedd yn animeiddiwr i Disney ar ddechrau'r 1980au. Yn sgil llwyddiant Vincent ym 1982, dechreuodd Disney ystyried cynhyrchu The Nightmare Before Christmas naill ai fel stori fer neu fel rhaglen arbennig 30 munud o hyd. Dros y blynyddoedd, dychwelodd meddyliau Burton i'r prosiect, ac ym 1990 daeth Burton a Disney i gytundeb i ddatblygu'r syniad. Dechreuodd y broses gynhyrchu ym mis Gorffennaf 1991 yn San Francisco. Penderfynodd Walt Disney ryddhau'r ffilm o dan eu baner Touchstone Pictures am eu bod o'r farn y byddai Nightmare yn "rhy dywyll a brawychus i blant".[1] Bu'r ffilm yn llwyddiant ymysg y beirniaid ffilm ac yn fasnachol. Ail-ryddhawyd y ffilm yn 2006, 2007, a 2008 yn eu fformat Disney Digidiol 3-D.