The Rocky Horror Picture Show

The Rocky Horror Picture Show

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Lou Adler
Michael White
Cynhyrchydd Jim Sharman
Ysgrifennwr Drama Lwyfan:
Richard O'Brien
Sgript:
Richard O'Brien
Jim Sharman
Serennu Tim Curry
Susan Sarandon
Barry Bostwick
Richard O'Brien
Patricia Quinn
Nell Campbell
Meat Loaf
Dylunio
Cwmni cynhyrchu 20th Century Fox
Dyddiad rhyddhau DU
14 Awst, 1975
UDA
26 Medi, 1975
Amser rhedeg 100 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Deyrnas Unedig
Iaith Saesneg

Mae The Rocky Horror Picture Show (1975) yn ffilm gomedi gerddorol Brydeinig-Americanaidd sy'n parodïo ffilmiau gwyddonias ac arswyd. Daeth y ffilm yn enwog fel ffilm ganol nos ym 1977 pan ddechreuodd cynulleidfaoedd gymryd rhan yn y ffilm mewn sinemau ar hyd a lled y wlad. "Rocky Horror" yw'r ffilm ganol nos gyntaf i gael ei chynhyrchu gan un o'r stiwdios ffilmiau mawrion, megis 20th Century Fox. MAe gan y ffilm ddilyniant rhyngwladol ac mae'n un o'r ffilmiau mwyaf enwog a llwyddiannus yn fasnachol erioed. Yn 2005, dewiswyd y ffilm gan Gynghrair y Llyfrgelloedd i gael ei chadw yn y Gofrestrfa Ffilm Genedlaethol yr Unol Daleithiau am ei arwyddocad diwylliannol, hanesyddol a gweledol.

Ystyrir y ffilm gwlt hon yn glasur, ac mae'n addasiad o'r cynhyrchiad sioe gerdd Prydeinig, The Rocky Horror Show. Cynorthwywyd Richard O'Brien, awdur y sioe lwyfan gan Jim Sharman pan yn ysgrifennu'r sgript. Mae'r ffilm yn serennu Tim Curry, Susan Sarandon a Barry Bostwick ynghyd â chast o gynhyrchiad gwreiddiol Kings Road a berfformiwyd yn Theatr Royal Court.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne