The Theory of Everything | |
---|---|
Poster Rhaghysbyseb | |
Cyfarwyddwyd gan | James Marsh |
Cynhyrchwyd gan |
|
Sgript | Anthony McCarten |
Seiliwyd ar | Travelling to Infinity: My Life with Stephen gan Jane Wilde Hawking |
Yn serennu |
|
Cerddoriaeth gan | Jóhann Jóhannsson |
Sinematograffi | Benoît Delhomme |
Golygwyd gan | Jinx Godfrey |
Stiwdio | Working Title Films |
Dosbarthwyd gan | Universal Pictures Focus Features |
Rhyddhawyd gan | 7 Medi 2014 (Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto) 1 Ionawr 2015 (Y Deyrnas Unedig) |
Hyd y ffilm (amser) | 123 munud[1][2] |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Cyfalaf | $15 miliwn[3] |
Gwerthiant tocynnau | $122.9 miliwn[3] |
Mae The Theory of Everything yn ffilm ddrama rhamantaidd fywgraffyddol Brydeinig 2014[4] a gyfarwyddwyd gan James Marsh ac addaswyd gan Anthony McCarten o'r cofiant Travelling to Infinity: My Life with Stephen gan Jane Wilde Hawking. Ymdrina'r llyfr â pherthynas Wilde Hawking gyda'i chyn-ŵr, y ffisegwr damcaniaethol Stephen Hawking, ei ddiagnosis gyda'r clefyd niwron echddygol, a'i llwyddiant ym myd ffiseg.[5]
Serenna Eddie Redmayne a Felicity Jones yn y ffilm gyda Charlie Cox, Emily Watson, Simon McBurney, Christian McKay, Harry Lloyd a David Thewlis yn ymddangos mewn rolau cefnogol. Arddangoswyd y ffilm am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto ar 7 Medi, 2014.
Canmolwyd y ffilm yn fyd-eang a fe'i henwebwyd ar gyfer ystod o acolâdau mewn sioeau gwobrau a gwyliau ffilmiau. Canmolwyd perfformiad Redmayne fel Stephen, gyda'r actor yn ennill nifer o wobrau ac enwebiadau gan gynnwys Gwobr yr Academi ar gyfer yr Actor Gorau. Derbyniwyd y ffilm bedwar enwebiad Gwobr Golden Globe, gyda Redmayne yn ennill y Wobr Golden Globe ar gyfer yr Actor Gorau – Drama Ffilm a Jóhannsson yn ennill y wobr ar gyfer y Sgôr Gwreiddiol Gorau. Derbyniwyd y ffilm dri enwebiad yn yr 21ain Gwobrau Cymdeithas yr Actorion Sgrin, Redmayne yn ennill y wobr Berfformiad Rhagorol gan Actor Gwrywaidd mewn Prif Ran. Fe'i derbyniwyd 10 enwebiad yng Ngwobrau Ffilmiau'r Academi Brydeinig yn ennill Ffilm Brydeinig Rhagorol, Prif Actor Gorau (i Redmayne) a'r Sgript Gyfaddaswyd Orau (i McCarten).