Enghraifft o: | cyfres deledu |
---|---|
Crëwr | Chuck Lorre, Bill Prady |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Dechreuwyd | 24 Medi 2007 |
Daeth i ben | 16 Mai 2019 |
Genre | comedi sefyllfa |
Cymeriadau | Amy Farrah Fowler, Bernadette Rostenkowski-Wolowitz, Howard Wolowitz, Leonard Hofstadter, Leslie Winkle, Penny, Raj Koothrappali, Sheldon Cooper, Stuart Bloom, Mary Cooper, Missy Cooper, Georgie Cooper |
Yn cynnwys | The Big Bang Theory, season 1, The Big Bang Theory, season 2, The Big Bang Theory, season 3, The Big Bang Theory, season 4, The Big Bang Theory, season 5, The Big Bang Theory, season 6, The Big Bang Theory, season 7, The Big Bang Theory, season 8, The Big Bang Theory, season 9, The Big Bang Theory, season 10, The Big Bang Theory, season 11, The Big Bang Theory, season 12 |
Lleoliad y gwaith | Pasadena |
Cyfarwyddwr | Mark Cendrowski |
Cynhyrchydd/wyr | Chuck Lorre, Bill Prady, Lee Aronsohn, Steven Molaro |
Cwmni cynhyrchu | Warner Bros. Television Studios, Chuck Lorre Productions |
Dosbarthydd | Warner Bros. Television Studios, Netflix, HBO Max |
Iaith wreiddiol | Saesneg [1] |
Gwefan | https://www.cbs.com/shows/big_bang_theory |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Comedi sefyllfa o'r Unol Daleithiau a greuwyd gan Chuck Lorre a Bill Prady yw The Big Bang Theory. Darlledwyd y bennod gyntaf ar 24 Medi 2007 a'r bennod olaf un ar 16 Mai 2019, wedi darlledu 279 pennod dros 12 cyfres.[2] Mae'r gyfres yn dilyn dau ffisegwr sy'n rhannu fflat, Leonard Hofstadter a Sheldon Cooper; eu ffrindiau Howard Wolowitz a Rajesh Koothrappali; a'u cymydog hardd Penny.[3]
Dros amser, mae cymeriadau cefnogol wedi derbyn rolau serennu: Bernadette Rotenkowski, cariad Howard (ei wraig yn hwyrach), microbiolegydd a chyn-weinyddes gyda Penny; niwro-wyddonydd Amy Farrah Fowler, sy'n ymuno â'r grŵp ar ôl cwrdd â Sheldon ar wefan ddetio (yn dod yn gariad iddo yn hwyrach); Stuart Bloom, perchennog y siop lyfrau comig sy'n symud i mewn gyda mam Howard yng nghyfres 8; ac Emily Sweeney, dermatolegydd sy'n canlyn Raj.