The Black Spider


Opera mewn tri act gan Judith Weir, gyda libreto gan y cyfansoddwr The Black Spider (1985). Mae'r gwaith wedi seilio i ryw raddau ar novella 1842 Die schwarze Spinne gan Jeremias Gotthelf.[1]

Fe gomisiynodd Kent opera y gwaith gan Judith ar ôl i Norman Platt glywed recordiad o King Harald's Saga (gan Weir); wedi iddi greu argraff arbennig ar Platt, fe wnaeth gwrdd gyda hi a chomisiynu opera ar gyfer pobl ifanc gyda chronsfeydd gan y Cyngor Celfyddydau. Mae'n cyfuno stori werin o'r Swistir gydag adrooddiad newyddion o Wlad Pwyl. Mae'n gymysg o ddiregelwch, hanes, gwyddioniaeth, arswyd a chomedi, sy'n gofy actio a chanu medrus.

Perfformiwyd yr opera gyntaf yng nghladdgell Eglwys Gadeiriol Caergaint ar 6 Mawrth 1985, gyda'r tenor Armistead Wilkinson a phlant Ysgol Frank Hooker.[2] Mae'r opera yn para am tua awr a chwarter.[3]

  1. Andrew Clements, "Judith Weir", The New Grove Dictionary of Opera (London: Macmillan, 1997)
  2. N. Platt, Making Music (Ashford, Pemble Productions, 2001), tt.79-80
  3. World Cat entry for Black Spider opera, accessed 14 Awst 2015

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne