Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Martin Scorsese |
Cynhyrchydd | Brad Grey Graham King Roy Lee Brad Pitt |
Ysgrifennwr | William Monahan |
Serennu | Leonardo DiCaprio Matt Damon Jack Nicholson Mark Wahlberg Martin Sheen Vera Farmiga Ray Winstone Alec Baldwin |
Cerddoriaeth | Howard Shore |
Sinematograffeg | Michael Ballhaus |
Golygydd | Thelma Schoonmaker |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Warner Bros |
Amser rhedeg | 151 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg a Cantoneg |
Gwefan swyddogol | |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Mae The Departed yn ffilm gyffro droseddol a gyfarwyddwyd gan Martin Scorsese. Yn actio yn y ffilm mae Leonardo DiCaprio, Matt Damon a Jack Nicholson. Ail-gread Americanaidd o ffilm gyffro droseddol o Hong Kong o'r enw Infernal Affairs ydyw. Enillodd y ffilm bedair Gwobr yr Academi yn 79fed Gwobrau'r Academi gan gynnwyd y Ffilm Orau a'r Cyfarwyddwr Gorau ar gyfer Scorsese, rhywbeth bu'n disgwyl am amser hir amdano.
Lleolir y ffilm yn Boston, Massachusetts, lle mae rheolwr y Giwed Gwyddelig Francis "Frank" Costello (Nicholson) yn gosod ei protégé Colin Sullivan (Damon) fel casglwr a darparwr gwybodaeth yng Ngwasanaeth Heddlu Talaith Massachusettes. Ar yr un pryd, mae'r heddlu'n neilltuo heddwas cudd William Costigan, Jr. (DiCaprio) i ymuno â chriw Costello er mwyn casglu gwybodaeth. Wrth i ddwy ochr y gyfraith sylweddoli'r sefyllfa, ceisia bob dyn ddarganfod gwir gymeriad y lleill cyn cael eu darganfod eu hunain.