![]() | |
---|---|
Teitl amgen | David Goliath; The Tunnel |
Cyfarwyddwr | Pen Tennyson |
Cynhyrchydd | Michael Balcon |
Ysgrifennwr | Penrose Tennyson, Jack Jones, Louis Golding (sgript) Herbert Marshall, Alfredda Brilliant (stori) |
Serennu | Paul Robeson Edward Chapman Simon Lack Rachel Thomas |
Cerddoriaeth | Ernest Irving |
Sinematograffeg | Glen MacWilliams, Roy Kellino |
Golygydd | Ray Pitt |
Sain | Eric Williams |
Dylunio | Wilfrid Shingleton |
Cwmni cynhyrchu | CAPAD ar gyfer Ealing Films |
Dyddiad rhyddhau | 6 Ebrill 1940 |
Amser rhedeg | 77 munud |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Ffilm a wnaed gan Ealing Studios am bentref glofäol yng Nghymoedd De Cymru ac a gynhyrchwyd yn 1940 yw The Proud Valley, gyda'r baswr Paul Robeson a Rachel Thomas yn serennu ynddi.
Lleolir y stori ym maes glo De Cymru ac mae'n adrodd stori glöwr croenddu (sef Paul Robeson neu "David Goliath") sydd hefyd yn ganwr arbennig o dda ac sy'n ymuno gyda'r côr meibion lleol. Mae'r ffilm yn dangos caledi bywyd y glöwyr a'u teuluoedd yr adeg honno.
Mae'r ffilm wedi'i lleoli ym 1938, yn union wedi Streic Gyffredinol y Deyrnas Unedig 1926 a'r Dirwasgiad Mawr.
Yn wahanol i ffilmiau Hollywood yr oes dangosodd hon realaeth bywyd y dyn croenddu a flynyddoedd yn ddiweddarach mynegodd Robeson mai hon oedd ei ffefryn gan ei bod yn dangos y croenddu a'r gweithiwr cyffredin mewn modd positif: "It depicts the Negro as he really is—not the caricature he is always represented to be on the screen".