![]() | |
![]() | |
Enghraifft o: | cwmni cynhyrchu ffilmiau, sefydliad masnachol, uwchgwmni cyfathrebu, busnes, cwmni cyhoeddus ![]() |
---|---|
Rhan o | S&P 500, Dow Jones Industrial Average ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 16 Hydref 1923 ![]() |
Rhagflaenwyd gan | Laugh-O-Gram Studio ![]() |
Lleoliad yr archif | Archifau Walt Disney ![]() |
Prif weithredwr | Bob Iger ![]() |
Sylfaenydd | Walt Disney, Roy O. Disney ![]() |
Aelod o'r canlynol | Copyright Alliance ![]() |
Gweithwyr | 201,000 ![]() |
Isgwmni/au | National Geographic Partners ![]() |
Ffurf gyfreithiol | Delaware corporation ![]() |
Cynnyrch | meddalwedd, darlledu, cerddoriaeth, video game ![]() |
Incwm | 15,706,000,000 $ (UDA) ![]() |
Asedau | 203,631,000,000 $ (UDA) ![]() |
Pencadlys | Burbank, Califfornia, Unol Daleithiau America ![]() |
Enw brodorol | The Walt Disney Company ![]() |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Gwefan | https://thewaltdisneycompany.com/ ![]() |
![]() |
Cwmni amlwladol Americanaidd yn niwydiannau'r cyfryngau torfol ac adloniant yw The Walt Disney Company, a adwaenir yn aml fel Disney, sydd a'i bencadlys Walt Disney Studios yn Burbank, Califfornia. Disney yw cwmni darlledu a theledu cebl ail fwyaf y byd yn nhermau refeniw; Comcast yw'r mwyaf.[1] Sefydlwyd cwmni Disney ar 16 Hydref 1923 gan Walt Disney a Roy O. Disney dan yr enw Disney Brothers Cartoon Studio. Daeth yn arweinydd yn niwydiant animeiddio'r Unol Daleithiau, ac yn ddiweddarach mewn cynhyrchu ffilmiau, teledu, a pharciau thema. Gweithredodd y cwmni dan yr enwau The Walt Disney Studio a Walt Disney Productions (1929–86).[2] Mabwysiadodd ei enw cyfredol ym 1986, a thyfodd ei weithredoedd a hefyd sefydlodd adrannau sy'n ymwneud â'r theatr, radio, cerddoriaeth, cyhoeddi, a chyfryngau ar-lein.
Mae rhai o adrannau Disney yn marchnata cynnyrch o natur fwy aeddfed na'r prif frandiau a anelir at blant a theuluoedd. Cynnyrch enwocaf y cwmni yw ei ffilmiau a wneir gan Walt Disney Studios, sydd yn un o'r stiwdios ffilm mwyaf ei maint yn sinema'r Unol Daleithiau. Mae Disney hefyd yn berchen ar y rhwydwaith teledu ABC a sianeli cebl gan gynnwys y Disney Channel, ESPN, A+E Networks, ac ABC Family; adrannau cyhoeddi, marsiandïaeth, cerddoriaeth, a theatr; ac yn berchen ar 14 o barciau thema o gwmpas y byd. Mae'r cwmni'n rhan o'r Dow Jones Industrial Average ers 6 Mai 1991. Symbol amlycaf Disney yw'r cymeriad cartŵn Mickey Mouse.