Theo Bos

Theo Bos
Ganwyd22 Awst 1983 Edit this on Wikidata
Hierden Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBrenhiniaeth yr Iseldiroedd Edit this on Wikidata
Galwedigaethseiclwr cystadleuol, seiclwr trac, sglefriwr cyflymder Edit this on Wikidata
Taldra190 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau77 cilogram Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.theobosofficial.com/ Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auDimension Data, Lotto NL-Jumbo, Cervélo Test, Rabobank Development Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonYr Iseldiroedd Edit this on Wikidata

Seiclwr trac o'r Iseldiroedd ydy Theo Bos (ganwyd 22 Awst 1983 yn Hierden, Yr Iseldiroedd), mae'n enillydd medal arian yn y Gemau Olympaidd ac yn bencampwr y byd pum gwaith.

Enillodd y fedal arian yn sbrint Gemau Olympaidd 2004.

Enillodd y fedal aur yn y sbrint a'r treial amser 1 km (neu kilo) ym Mhencampwriaethau Trac y Byd, UCI 2004. Y flwyddyn canlynol, enillodd y fedal aur yn y pursuit unigol, a medal arian ym Mhencampwriaethau Trac y Byd, UCI 2005.

Ym Mhencampwriaethau Trac y Byd, UCI 2006, enillodd y fedal aur yn y ras keirin, gan gyflawni "Coron Drifflig" o fuddugoliaethau (gan iddo fod yn Bencampwr y Byd yn sbrint, kilo a keirin). Enillodd y ras y argyhoeddiadol ar ôl cyflynmu â dau lap i fynd, a chwythu'r cystadlwyr eraill i ffwrdd, gan ennill â bwlch llydan rhynddo ef a'i gystadleuwyr a chael digon o amser i godi ei ddwylo i chwifio at y dorf wrth groesi'r linell. [1] Disgrifiodd ei cyd-gystadlwr Ffrangeg, ac enillydd y fedal efydd, Arnaud Tournant, berfformiad Bos fel "yr un gorau iddo weld ers amser maith" (Saesneg: "the best I’ve seen in a very long time.") Ail-enillodd ei deitl sbrint hefyd.

Ar 16 Rhagfyr, 2006, torodd Bos record seiclo trac y byd 200 metr, yn ystod cymalau ymgymhwyso sbrint Cypan y Byd yn Moscow. Clociodd Bos amser o 9.772 eiliad (ar ôl i nam cyfrifiadurol roi amser annhebygol o 9.086 eiliad iddo), a curodd y record a ddelwyd gan Ganadiwr, Curt Harnett am 11 mlynedd gynt. Yn dilyn hyd, datganodd Bos mai'r 200 m Following his record setting run Bos declared the 200 m oedd y "record eithafaf" ar gyfer seiclwyr trac. [2] Archifwyd 2007-09-07 yn y Peiriant Wayback Pum diwrnod yn ddiweddarach, anrhydeddwyd Bos â gwobr Chwaraewr y Flwyddyn, yr Iseldireoedd.

Mae ei frawd Jan Bos, hefyd yn seiclwr trac ond yn bennaf mae'n sglefriwr cyflymder.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne