Theodor W. Adorno | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Theodor Ludwig Wiesengrund ![]() 11 Medi 1903 ![]() Frankfurt am Main ![]() |
Bu farw | 6 Awst 1969 ![]() Visp ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, yr Almaen, Ymerodraeth yr Almaen, Awstria, Y Swistir ![]() |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | athronydd, cyfansoddwr, cerddolegydd, cymdeithasegydd, academydd, beirniad llenyddol, beirniad cerdd, gwirebwr, pianydd, llenor, academydd, esthetegydd ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Gesammelte Schriften, Negative Dialektik, Ästhetische Theorie, Dialektik der Aufklärung, Philosophie und Musik, Minima Moralia, The Authoritarian Personality ![]() |
Arddull | cerddoriaeth glasurol ![]() |
Prif ddylanwad | Walter Benjamin, Max Horkheimer, Georg Hegel, Karl Marx, Friedrich Nietzsche ![]() |
Mudiad | Ysgol Frankfurt, cerddoriaeth glasurol yr 20fed ganrif, continental philosophy ![]() |
Mam | Maria Calvelli-Adorno ![]() |
Priod | Gretel Adorno ![]() |
Gwobr/au | Plac Goethe Dinas Frankfurt am Main ![]() |
Athronydd Marcsaidd, cymdeithasegydd, a cherddolegydd o'r Almaen oedd Theodor Wiesengrund Adorno (11 Medi 1903 – 6 Awst 1969).
Ganwyd yn Frankfurt am Main yn nhalaith Hessen, i fam Gatholig o Gorsica a thad Protestannaidd o dras Iddewig. Yn Frankfurt fe enillodd ddoethuriaeth mewn athroniaeth o Brifysgol Johann Wolfgang Goethe. Aeth i Fienna yn 1925 i astudio dan y cyfansoddwr Alban Berg. Dychwelodd i Frankfurt yn 1927 ac ymunodd â'r Institut für Sozialforschung (IfS) yn y brifysgol. Y sefydliad hwnnw a gynhyrchai Ysgol Frankfurt, ac Adorno oedd un o brif feddylwyr y mudiad deallusol hwnnw.
Cafodd Adorno a nifer o aelodau eraill yr IfS eu gyrru allan o'r Almaen gan y llywodraeth Natsïaidd yn 1934, a symudodd Adorno i Loegr i addysgu ym Mhrifysgol Rhydychen. Ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn 1938, ac yno fe gyd-weithiodd gyda Max Horkheimer, cyfarwyddwr yr IfS, wrth ysgrifennu sawl llyfr, gan gynnwys Dialektik der Aufklärung (1947). Dychwelodd Adorno a Horkheimer i'r Almaen yn 1949, ac ailgychwynasant eu gwaith yn Frankfurt yn 1951. Bu farw yn 65 oed.