Thomas Bayes

Thomas Bayes
Ganwyd1702 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw17 Ebrill 1761 Edit this on Wikidata
Royal Tunbridge Wells Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethmathemategydd, ystadegydd, clerig, athronydd Edit this on Wikidata
Swyddgweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAn Essay towards solving a Problem in the Doctrine of Chances, theorem Bayes-Price Edit this on Wikidata
TadJoshua Bayes Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata
llofnod

Athronydd ac ystadegwr o Swydd Hertford, Lloegr, oedd y Parch. Thomas Bayes (c. 17017 Ebrill 1761)[1]. Mae'n nodedig am theorem Bayes a enwyd ar ei ôl, ond na chyhoeddwyd tan wedi ei farwolaeth. Ei gyfaill, y dyngarwr byd enwog Richard Price a sylwodd ar y wybodaeth newydd hon, wrth iddo fynd drwy ei bapurau wedi'r angladd.[2]

Cynigiodd Thomas Bayes ateb i broblem 'gwrthdro tebygolrwydd' (inverse probability) mewn ysgrif fechan a luniodd "An Essay towards solving a Problem in the Doctrine of Chances" a ddarllenwyd i'r Gymdeithas Frenhinol yn 1763, wedi ei farwolaeth. Richard Price wthiodd y theori hwn gan ei ddatblygu a'i gyhoeddi y flwyddyn dilynol mewn ysgrif o'r enw Philosophical Transactions of the Royal Society of London. Roedd y theori'n cynnig dadl dros raniad unffurf o'r paramedr binomaidd yn hytrach na'i gynosod mewn modd cyffredinol.[3]

Cyhoeddodd ddau lyfr yn ystod ei oes, un ohonynt am fathemateg: An Introduction to the Doctrine of Fluxions, and a Defence of the Mathematicians Against the Objections of the Author of The Analyst (heb ei enw, 1736), pan ddadleuodd dros sylfaen rhesymegol theori Isaac Newton ar galcwlws ac yn erbyn dadleuon negyddol George Berkeley, awdur The Analyst.

  1. Belhouse, D.R. The Reverend Thomas Bayes FRS: a Biography to Celebrate the Tercentenary of his Birth; Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd Tachwedd 2015
  2. McGrayne, Sharon Bertsch. (2011). The Theory That Would Not Die p. 10., tud. 10, ar Google Books
  3. Edwards, A. W. G. "Commentary rhon the Arguments of Thomas Bayes," Scandinavian Journal of Statistics, Cyfrol 5, Rhif 2 (1978), tt. 116–118; adalwyd 6 Awst 2011

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne