Thomas De Quincey | |
---|---|
Ganwyd | 15 Awst 1785 Manceinion |
Bu farw | 8 Rhagfyr 1859 Caeredin |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ieithydd, newyddiadurwr, llenor, nofelydd, cyfieithydd, hunangofiannydd, rhyddieithwr, awdur ysgrifau, beirniad llenyddol, athronydd |
Tad | Thomas Quincey |
Mam | Elizabeth Penson |
Plant | Paul Frederick de Quincey, Florence Elizabeth De Quincey |
llofnod | |
Llenor o Sais oedd Thomas De Quincey (15 Awst 1785 – 8 Rhagfyr 1859). Ei gampwaith ydy Confessions of an English Opium-Eater (1821), atgof am bleser a phoen cymryd opiwm. Mae’r llyfr bellach yn cael ei weld fel clasur a'r cofiant cyffuriau neu lyfr Beatnic cyntaf. [1]
Ganwyd ym Manceinion. Masnachwr cyfoethog oedd ei dad, a fu farw pan oedd ei blant yn ieuainc, gan adael i'w weddw £1600 y flwyddyn i fyw arnynt. Ar ôl derbyn ei addysg mewn dwy neu dair o ysgolion, aeth Thomas yn 1803 i Rydychen. Yno y dechreuodd fwyta opiwm, arferiad a wnaeth niwed dirfawr i'w feddwl, i'w gorff, ac i'w amgylchiadau.
Gadawodd y brifysgol yn 1808, a threuliodd ysbaid o amser yn crwydro hyd Loegr a Chymru. Aeth i breswylio yn Llynnoedd Cumberland, ac yno cafodd gymdeithas awduron enwocaf yr oes. Nid ymroddod De Quincey i lenyddiaeth, oddi eithr er mwyn difyrrwch, nes oedd efe yn ddeugain oed, pryd y gorfu arno, er mwyn ymgynnal, ysgrifennu i'r London Magazine. Yn y cyhoeddiad hwnnw y darfu iddo gyhoedi ei waith amlycaf, Confessions of an Opium Eater. Parhaodd i ysgrifennu o hynny allan ar bob pwnc, ac mewn sawl arddull. A mỳn llawer mai efe, gan eithrio'r Albanwr John Wilson, oedd y cylchgronwr mwyaf gorchestol yng Ngwledydd Prydain.
Nodir ar gyfrif ei asbri a'i wreiddioldeb, ynghyd â rhwysg a mawredd ei ddychymyg, ac y mae ei arddull hefyd yn ddiguro mewn eglurder ac ystwythder. Dygodd hefyd lenyddiaeth yr Almaen i sylw darllenwyr Saesneg trwy ei gyfieithiadau, rhai blynyddoedd cyn i Carlyle ei gwneuthur hi mor adnabyddus.
Yn 1832, aeth De Quincey i'r Alban ac ymsefydlodd yn agos i Gaeredin, lle y bu yn fawr ei barch hyd ei farwolaeth. Cyhoeddwyd ei weithiau mewn 16 o gyfrolau (1862–71) gan A.&C. Black. Ysgrifennwyd bywgraffiad ohono mewn dwy gyfrol (1877) gan Alexander Hay Japp dan yr enw H. A. Page.