Thomas Heywood

Thomas Heywood
Ganwyd1574 Edit this on Wikidata
Swydd Lincoln Edit this on Wikidata
Bu farw16 Awst 1641 Edit this on Wikidata
Clerkenwell Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdramodydd, llenor, actor llwyfan, actor Edit this on Wikidata

Dramodydd ac actor o Loegr oedd Thomas Heywood (tua 157416 Awst 1641) a flodeuai yn ystod oes y theatr Elisabethaidd ac Iagoaidd.

Ni wyddys llawer am fywyd cynnar Heywood. Credir iddo hanu o Swydd Lincoln, ac astudiodd ym Mhrifysgol Caergrawnt, er nad oes cofnod ohono.[1] Ysgrifennai i'r Lord Admiral's Men, cwmni theatr dan arweiniad Philip Henslowe, erbyn 1596, ac yn ddiweddarach bu'n un o ddramodwyr blaenllaw y Queen Anne's a'r Lady Elizabeth's Men yn chwaraedai'r Red Bull a'r Cockpit.[2]

Honnodd Heywood ysgrifennu 220 o ddramâu, ond dim ond tua 30 ohonynt sydd yn goroesi heddiw.[1] Y ddrama gartref oedd ei gryfder. Ymhlith ei weithiau gorau mae A Woman Killed with Kindness (perfformiwyd 1603, argraffwyd 1607), The Fair Maid of the West (argr. 1631). a The English Traveller (argr. 1633). Mae ei ddramâu amlwg eraill yn cynnwys The Four Prentices of London (perff. tua 1600, argr. 1615), a ddychanir yn The Knight of the Burning Pestle gan Francis Beaumont; Edward IV (dwy ran, 1599); The Rape of Lucrece (1608); The Royal King and the Loyal Subject (argr. 1637); The Wise Woman of Hogsdon (tua 1604, argr. 1638); ac o bosib Fair Maid of the Exchange (argr. 1607), o awduraeth ansicr. Yn The Golden Age (1611), The Brazen Age (1613), The Silver Age (1613), a The Iron Age(dwy ran, 1632) ceir dramateiddiad panoramaidd o fytholeg glasurol. Ystyrir An Apology for Actors (1612) yn grynodeb gwych o'r dadleuon traddodiadol o blaid y theatr, a cheir sawl anecdot da o fywyd theatraidd Oes Iago.[2]

Cyhoeddodd Heywood hefyd farddoniaeth (gan gynnwys The Hierarchy of the Blessed Angels, 1635), cyfieithiadau, a phasiantau ar gyfer saith Sioe'r Arglwydd Faer. Ceir dwy ddrama, The Captives (1624) a The Escape of Jupiter (fersiwn erotig i raddau o'r Golden a Silver Ages) yn goroesi yn ei law ei hun.[2]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Thomas Heywood. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Hydref 2022.
  2. 2.0 2.1 2.2 Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), t. 466.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne