Thomas Johnes | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1 Medi 1748 ![]() Llwydlo ![]() |
Bu farw | 23 Ebrill 1816 ![]() Dyfnaint ![]() |
Man preswyl | Hafod Uchtryd ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, cyhoeddwr, cyfieithydd ![]() |
Swydd | Aelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 1af y Deyrnas Unedig, Aelod o 2il Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 15fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 16eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 17eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 18fed Senedd Prydain Fawr ![]() |
Tad | Thomas Johnes ![]() |
Mam | Elizabeth Knight ![]() |
Priod | Jane Johnes, Maria Burgh ![]() |
Plant | Mariamne Johnes, Evan Johnes ![]() |
Aelod seneddol, pensaer tirwedd, ffermwr, cyhoeddwr, llenor a chymwynaswr cymdeithasol o Llwydlo, Swydd Amwythig, Lloegr oedd Thomas Johnes (1 Medi 1748 – 23 Ebrill 1816). Mae'n fwyaf adnabyddus am ddatblygu ystâd Hafod Uchtryd yng Ngheredigion.[1]
Symudodd Johnes o gartref y teulu yn Croft Castle i Hafod Uchtryd ger Cwmystwyth, Ceredigion, a dechreuodd ddatblygu yr ystâd drwy adeiladu capel anwes ar gyfer tenantiaid yr ystâd, yn ogystal ag ysgol a gerddi, llwybrau a phontydd godidog. Arbrofodd gyda bridio defaid a gwartheg, a thyfu cnydau newydd, gan sefydlu llaethdy ffynianus. Cafodd nifer sylweddol o goed eu plannu ar dir nad oedd yn addas ar gyfer cnydau; a gwobrwywyd medal aur y Royal Society of Arts i Johnes bum gwaith er mwyn cydnabod ei ymdrechion. Anogodd ei denantiaid i wella eu ymarfer ffermio, gan gyhoeddi A Cardiganshire Landlord's Advice to his Tenants ym 1800, ynghyd â chyfieithiad Cymraeg, a cynigodd wobrau am y cnydau gorau. Bu hefyd yn un o brif gefnogwyr Cymdeithas Amaeth Ceredigion a sefydlwyd ym 1784. Ymroddodd Johnes ei oes a'i ffortiwn i ddatblygu ystâd Hafod.[1][2]