Thomas Carlyle | |
---|---|
Ffotograff o Thomas Carlyle, tua'r 1860au. | |
Ganwyd | 4 Rhagfyr 1795 Ecclefechan |
Bu farw | 5 Chwefror 1881 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Yr Alban, Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ieithydd, hanesydd llenyddiaeth, hanesydd, cyfieithydd, mathemategydd, athronydd, awdur ysgrifau, llenor, beirniad llenyddol, nofelydd, athro |
Swydd | Rector of the University of Edinburgh |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Sartor Resartus, On Heroes, Hero-Worship, and The Heroic in History |
Mam | Margaret Aitken Carlyle |
Priod | Jane Welsh Carlyle |
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Pour le Mérite |
llofnod | |
Hanesydd, traethodydd, a bywgraffydd o'r Alban oedd Thomas Carlyle (4 Rhagfyr 1795 – 5 Chwefror 1881). Efe oedd prif feirniad diwylliannol yr oes Fictoriaidd, a dylanwadodd ar nifer o feirniad iau y cyfnod, gan gynnwys Matthew Arnold a John Ruskin. Dadleuodd o blaid arweinyddiaeth dadol a chryfder yr arwr, gan feirniadu damcaniaeth laissez-faire a llywodraeth seneddol. Mae ganddo arddull hynod o nodweddiadol: "cyfuniad o ymadroddion beiblaidd, geiriau gwerin, ystumiadau Tiwtonaidd, a bathiadau ei hunan, yn nhrefn yr annisgwyl".[1]
Ganwyd yn Ecclefechan, Swydd Dumfries, i deulu mawr o Galfiniaid. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Annan a Phrifysgol Caeredin, ac yno ymddisgleiriodd ym maes mathemateg. Cychwynnodd ar ei yrfa yn diwtor, ysgolfeistr, a newyddiadurwr. Darllenodd lyfr Germaine de Staël ar yr Almaen, gan fagu ynddo ddiddordeb yn llenyddiaeth ac athroniaeth Almaenig. Ymhlith ei weithiau cynnar mae Life of Schiller (1823) a'i gyfieithiad o Wilhelm Meister (1824) gan Goethe.
Priododd Jane Baillie Welsh ym 1826. Cyhoeddodd ei hunangofiant ysbrydol, Sartor Resartus, yng nghylchgrawn Fraser's ym 1833–34, cyn iddo symud i fyw yn Llundain. Ysgrifennodd hanes y Chwyldro Ffrengig (1837), traethawd ar Siartiaeth (1839), casgliad o'i ddarlithoedd dan y teitl On Heroes, Hero-Worship, and The Heroic in History (1841), golygiad o lythyrau ac areithiau Cromwell (1845), a bywgraffiad Ffredrig Fawr (1858–65).
Bu farw ei wraig ym 1866, ac ar ddiwedd ei fywyd cafodd Carlyle ei weld yn broffwyd hen ffasiwn. Claddwyd ym Mynwent Ecclefechan.