Thomas Jefferson

Thomas Jefferson
Ganwyd2 Ebrill 1743 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Shadwell Edit this on Wikidata
Bu farw4 Gorffennaf 1826 Edit this on Wikidata
o wremia Edit this on Wikidata
Monticello Edit this on Wikidata
Man preswylMonticello, Hôtel de Langeac Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg William & Mary Edit this on Wikidata
Galwedigaethathro, cryptograffwr, pensaer, cyfreithiwr, llenor, diplomydd, gwleidydd, athronydd, dyfeisiwr, ffermwr, gwladweinydd, archeolegydd, cyfreithegwr, paleontolegydd Edit this on Wikidata
SwyddIs-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, llysgennad yr Unol Daleithiau i Ffrainc, Governor of Virginia, Arlywydd yr Unol Daleithiau, Arlywydd-etholedig yr Unol Daleithiau, member of the Virginia House of Delegates Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadAnthony Ashley-Cooper, 3ydd Iarll Shaftesbury Edit this on Wikidata
Taldra1.89 metr, 189 centimetr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolDemocratic-Republican Party Edit this on Wikidata
TadPeter Jefferson Edit this on Wikidata
MamJane Randolph Jefferson Edit this on Wikidata
PriodMartha Jefferson Edit this on Wikidata
PartnerSally Hemings Edit this on Wikidata
PlantMartha Jefferson Randolph, Mary Jefferson Eppes, Madison Hemings, Harriet Hemings, Eston Hemings, Jane Randolph Jefferson, unnamed son Jefferson, Lucy Elizabeth Jefferson I, Lucy Elizabeth Jefferson II Edit this on Wikidata
PerthnasauDabney Carr Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America Edit this on Wikidata
llofnod

Thomas Jefferson (13 Ebrill 17434 Gorffennaf 1826) oedd trydydd Arlywydd yr Unol Daleithiau, o 1801 hyd 1809. Bu hefyd yn Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau rhwng 1797 a 1801 ac yn llywodraethwr talaith Virginia (1779-1781). Ef oedd prif awdur Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau a sylfaenydd Prifysgol Virginia.

Ganed Jefferson yn Shadwell, Virginia ar yr 2 Ebrill 1743, yn ôl y Calendr Iwlaidd oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr Ymerodraeth Brydeinig yr adeg honno, neu 13 Ebrill yn ôl Calendr Gregori a fabwysiadwyd yn 1752. Ef oedd y trydydd o ddeg plentyn Jane Randolph a Peter Jefferson. Yn 1752, dechreuodd Jefferson fynd i ysgol a gedwid gan William Douglas, ac yn naw oed dechreuodd astudio Lladin, Groeg a Ffrangeg. Bu farw ei dad yn 1757 ac etifeddodd tua 5,000 acer o dir a dwsinau o gaethweision. Adeiladodd blas ar y tir yma, a alwodd yn Monticello.

Aeth i ysgol y Parchedig James Maury yn Fredericksburg rhwng 1758 a 1760, ac aeth i'r coleg yn Williamsburg yn 16 oed, lle bu'n astudio dan William Small. Yn ddiweddarach astudiodd y gyfraith, a thrwyddedwyd ef yn gyfreithiwr yn Virginia yn 1767.

Yn 1772, priododd wraig weddw, Martha Wayles Skelton (1748-1782). Cawsant chwe phlentyn. Dywedir iddo hefyd gael nifer o blant gydag un o'i gaethweision, Sally Hemings, a phrofwyd hyn gan dystiolaeth DNA ym 1998,[1] ond mae ychydig o ysgolheigion yn dadlau'r posibilrwydd taw brawd neu un o neiod Jefferson oedd tad y plant.[2] Bu farw yn Monticello 4 Gorffennaf 1826.

Yn ôl traddodiad y teulu, roedd Jefferson o dras Gymreig, a'r teulu yn hanu o Eryri. Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Faenol ger Bangor yn 2006, dadorchuddiwyd cofeb i goffáu ei gysylltiad â'r ardal.

  1. Foster, EA; Jobling MA, Taylor PG, Donnelly P, de Knijff P, Mieremet R, Zerjal T, Tyler-Smith C (1998). "Jefferson fathered slave's last child". Nature 396 (6706): 27–28. doi:10.1038/23835. PMID 9817200. http://www.familytreedna.com/pdf/Jeffersons.pdf. Adalwyd 2012-08-04.
  2. "The Scholars Commission on the Jefferson-Hemings Issue" Archifwyd 2017-06-29 yn y Peiriant Wayback, 2001, Thomas Jefferson Heritage Society

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne