Thriller yw chweched albwm stiwdio y canwr Americanaidd, Michael Jackson. Rhyddhawyd yr albwm ar 30 Tachwedd 1982 gan Epic Records ac fel albwm ddilynol i albwm hynod lwyddiannus Jackson ym 1979, Off the Wall. Mae'r caneuon ar yr albwm Thriller yn gymharol debyg i Off the Wall, am eu bod yn cynnwys cerddoriaeth ffync, disco, soul, roc ysgafn, R&B a pop. Fodd bynnag, yn gyffredinol mae geiriau caneuon Thriller yn ymdrin â themâu mwy tywyll, gan gynnwys paranoia, a'r goruwchnaturiol.
Costiodd yr albwm $750,000 i'w chynhyrchu a chafodd ei recordio yn Stiwdios Recordio Westlake yn Los Angeles, Califfornia rhwng mis Ebrill a Thachwedd 1982. Ysgrifennodd Jackson bedair o'r naw cân ar yr albwm. Gweithiodd Quincy Jones fel cynhyrchydd ar yr albwm hefyd.