![]() | |
Math | cadwyn o fynyddoedd ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cirgistan, Casachstan, Gweriniaeth Pobl Tsieina ![]() |
Gwlad | Cirgistan, Casachstan, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Wsbecistan ![]() |
Uwch y môr | 7,439 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 42.0375°N 80.1253°E ![]() |
Hyd | 2,500 cilometr ![]() |
Cyfnod daearegol | Defonaidd ![]() |
![]() | |
Mynyddoedd o gwmpad y ffin rhwng Casachstan, Cirgistan a thalaith Sinkiang yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina yw'r Tien Shan neu Tian Shan (Tsieineeg: 天山; Tiān Shān).
Y copaon uchaf yn y Tien Shan yw Copa Jengish Chokusu ("Copa Buddugoliaeth", Pik Pobedy, Ğeňiš Čokusu 7439 m) a Chan Tengri (7010 m). Rhwng y ddau fynydd yma ceir rhewlif Eňilček, y mwyaf yn y Tien Shan.
Y Tien Shan sy'n gwahanu dalgylchoedd afonydd Tarim ar yr ochr ogledd-ddwyreiniol a'r Ili, y Syr Darja a'r Čüj (Şu) ar yr ochr ogledd-orllewinol. Yn y de-orllewin, mae'r Tien Shan yn parhau fel y Pamir, ac yn y gogledd-ddwyrain fel y Bogda Shan. Y prif fwlch trwy'r mynyddoedd yw Bwlch Torugart (3752 m.).