![]() | |
Math | cymuned, pentref ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 559 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | ![]() |
Yn ffinio gyda | Johnston ![]() |
Cyfesurynnau | 51.7558°N 5.0352°W ![]() |
Cod SYG | W04000955 ![]() |
Cod OS | SM905108 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Stephen Crabb (Ceidwadwr) |
![]() | |
Pentref a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Tiers Cross.[1] Ymddengys nad oes enw Cymraeg arno.[2] Saif yng ngorllewin y sir, ar ffordd gefn rhwng Hwlffordd ac Aberdaugleddau, ychydig i'r gorllewin o briffordd yr A4076. Roedd poblogaeth y gymuned yn 471 yn 2001.
Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Dreenhill a Thornton. Saif yn y rhan y mae Gwyddoniadur Cymru yn ei ddisgrifio fel y "rhan leiaf diddorol o Sir Benfro". Bu David Lloyd George yn byw yn ffermdy Bulford am ychydig dros flwyddyn pan oedd yn ieuanc.[3]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[5]