Tim Peake CMG | |
---|---|
![]() Peake yn 2013 | |
Cenedligrwydd | Prydeiniwr |
Statws | Gweithredol |
Ganed | Timothy Nigel Peake 7 Ebrill 1972[1] Chichester, Sussex, Lloegr |
Swyddi arall | Peilot prawf |
Swydd flaenorol | Swyddog Y Fyddin Brydeinig |
Prifysgol Portsmouth (BSc) | |
Rheng | Uwchgapten |
Amser yn y gofod | 185 diwrnod 22 awr 11 munud (15 Rhagfyr 2015 - 18 Mehefin 2016) |
Dewiswyd | Grŵp ESA 2009 |
Cyfanswm EVA | 1 |
Cyfanswm amser EVA | 4 awr , 43 munud |
Teithiau | Soyuz TMA-19M (Taith 46/Taith 47) |
Bathodyn taith | ![]() ![]() |
Gwobrau | CMG |
Gwefan | principia.org.uk |
Mae Timothy Nigel Peake CMG (ganwyd 7 Ebrill 1972) yn swyddog yng Nghorfflu Awyr y Fyddin Brydeinig, gofodwr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (ESA)[2] ac aelod o griw'r Orsaf Ofod Ryngwladol (ISS).
Fe oedd gofodwr cyntaf ESA o wledydd Prydain, a'r ail ofodwr i wisgo bathodyn baner yr Undeb (y cyntaf oedd Helen Sharman), y chweched unigolyn a anwyd yn y Deyrnas Unedig i fynd ar yr Orsaf Ofod Ryngwladol (y cyntaf oedd gofodwr NASA, Michael Foale yn 2003) a'r seithfed unigolyn a anwyd yn y DU i fynd i'r gofod (y cyntaf oedd Helen Sharman, a ymwelodd â Mir fel rhan o Brosiect Juno yn 1991).[3] Cychwynnodd gwrs hyfforddiant dwys gofodwyr ESA yn Medi 2009 a graddiodd ar 22 Tachwedd 2010.[4]