Arwyddair | Tokelau for the Almighty |
---|---|
Math | grŵp o ynysoedd, rhestr o diriogaethau dibynnol, endid tiriogaethol gwleidyddol |
Prifddinas | Fakaofo |
Poblogaeth | 1,499 |
Anthem | God Save the King |
Cylchfa amser | UTC+13:00, UTC+12:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Tokelauan, Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Seland Newydd |
Gwlad | Tocelaw |
Arwynebedd | 10 ±1 km² |
Cyfesurynnau | 9.1667°S 171.8333°W |
Arian | New Zealand dollar |
Tiriogaeth yn ne'r Cefnfor Tawel yw Tocelaw (hefyd Tokelau ac Ynysoedd Tocelaw) sy'n perthyn i Seland Newydd ac sy'n cynnwys tair atol yn unig. Mae Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi dynodi Tokelau yn Diriogaeth An-Hunanlywodraethol (Non-Self-Governing Territory). Hyd 1976 yr enw swyddogol oedd Ynysoedd Tocelaw (Tokelau Islands). Weithiau cyfeirir at Tocelaw o hyd yn Saesneg wrth yr hen enw trefedigaethol The Union Islands. Mae'n rhan o ynysoedd Polynesia.
Does gan Tocelaw ddim prifddinas fel y cyfryw, gyda chanolfan weinyddol ar gyfer pob un o'r tair ynys fechan. Mae tua 1,416 o bobl yn byw ar yr ynysoedd.
Saesneg yw'r iaith swyddogol, ond siaredir yr iaith Tocelaweg, un o ieithoedd Polynesia, gan fwyafrif yr ynyswyr.