Tom Hollander | |
---|---|
Ganwyd | 25 Awst 1967 Bryste |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | sgriptiwr, cynhyrchydd teledu, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu, actor |
Gwobr/au | Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm Broadcast ar gyfer Cast Gorau, Gwobr Urdd Actorion Sgrin ar gyfer Perfformiad Eithriadol gan Cast mewn Ffilm Nodwedd, Satellite Award for Best Cast – Motion Picture, Chlotrudis Award for Best Cast, Gwobrau Ian Charleson |
Mae Thomas "Tom" Anthony Hollander (ganed 25 Awst 1967)[1][2] yn actor Seisnig. Dechreuodd ei yrfa yn y theatr, yn ennill y Wobr Ian Charleson yn 1992 ar gyfer ei berfformiad fel Witwoud yn The Way of the World yn Theatr y Lyric Hammersmith. Fe'i adnabyddir am ei rolau mewn ffilmiau megis Pirates of the Caribbean ac In the Loop, a chyfresi drama megis Enigma, Pride & Prejudice, Gosford Park a Hanna. Chwaraeodd y brif ran yn y comedi sefyllfa Rev., cyfres a enillodd Wobr Deledu yr Academi Brydeinig ar gyfer y comedi sefyllfa gorau yn 2011. Yn 2016, ymddangosodd yng nghyfres y BBC The Night Manager a'r gyfres ITV Doctor Thorne.