Enghraifft o: | math o feinwe, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | naso-pharyngeal lymphoid tissue, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | gwddf |
Enw brodorol | tonsillae |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Casgliad o meinweoedd lymffoid yw tonsilau (hefyd cilchwarennau) yn gwynebu'r llwybr anadlu a threulio. Mae'r set meinweoedd lymffatig a elwir yn gylch tonsilaidd Waldeyer yn cynnwys y tonsilau adenoid, dau o donsilau Eustachiaidd, dau o donsilau taflodol a'r tonsil tafodol.
Pan nad oes gair i fynd gyda'r gair 'tonsil', mae'n debyg mai'r tonsilau taflodol sydd dan sylw. Maen nhw ar naill ochr yng nghefn y gwddf dynol. Y tonsilau taflodol a'r tonsil nasoffaryngol yw'r meinweoedd lymffo-epithelaidd yn yml yr oroffaryncs a'r nasoffaryncs, sef rhannau o'r gwddf.