Enghraifft o: | prosiect ![]() |
---|---|
Dyddiad | 1960s ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
![]() |
Rhaglen fawr o gwtogiadau ar wasanaethau rheilffordd ym Mhrydain yn y 1960au oedd Toriadau Beeching neu Bwyell Beeching. Fe'u henwir ar ôl Dr Richard Beeching, cadeirydd Bwrdd y Rheilffyrdd Prydeinig o 1961 hyd 1965. Ysgrifennodd ddau adroddiad – The Reshaping of British Railways (1963) a The Development of the Major Railway Trunk Routes (1965). Yn yr adroddiadau hyn, honnodd Beeching ei bod yn hanfodol gwella effeithlonrwydd y rheilffyrdd drwy ailstrwythuro mawr. Yn ymarferol, arweiniodd hyn at gau miloedd o filltiroedd o drac rheilffordd yn ogystal â miloedd o orsafoedd. Ar ben hynny, ymddiswyddwyd filoedd lawer o weithwyr y rheilffyrdd.
Roedd Beeching dan bwysau gwleidyddol i atal y colledion mawr a gafwyd gan y rheilffyrdd yn ystod cyfnod o gystadleuaeth gynyddol gan gludiant ar y ffordd a lleihau maint y cymhorthdal gan y llywodraeth. Roedd disgwyl iddo gynhyrchu atebion cyflym i broblemau dwfn nad oeddynt yn agored i ddadansoddiad deallusol yn unig.[1]
Dynododd yr adroddiad cyntaf 2,363 o orsafoedd i'w cau, sef 55% o holl orsafoedd y cyfnod a 5,000 o filltiroedd (8,000 km) o reilffordd i'w ddileu, sef 30% o'r rhwydwaith cyfan. Byddai 67,700 o swyddi'n cael eu colli o ganlyniad. Roedd hefyd yn rhagweld newid i'r arfer o gludo nwyddau ar y rheilffyrdd mewn cynhwysyddion. Nododd yr ail adroddiad nifer fach o lwybrau mawr yr oedd angen buddsoddi ynddynt.
Arweiniodd protestiadau amrywiol at arbed rhai gorsafoedd a llinellau, ond cafodd y mwyafrif eu cau fel y cynlluniwyd. Cadwyd rhai darnau byr o'r trac fel rheilffyrdd treftadaeth, ac ymgorfforwyd eraill i reilffyrdd ysgafn a'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol neu fe'u defnyddiwyd ar gyfer datblygiadau ffyrdd. Defnyddiwyd rhannau eraill fel tir adeiladu neu dir fferm. Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, mae llawer o'r hen dir rheilffordd yn parhau i fod yn ddiffaith heb unrhyw gynlluniau i'w hailddefnyddio na'u hailddatblygu.
Teimlwyd effeithiau Bwyell Beeching yn drwm yng Nghymru. Ar ddechrau'r 1960au roedd 583 o orsafoedd yng Nghymru; erbyn diwedd y degawd roedd llai na 200. Caewyd llawer o ganghennau'r De, a gadawyd rhai trefi, fel Aberdâr, Abertyleri a Dowlais heb gyswllt rheilffordd o gwbl. Caewyd y llinellau o Aberystwyth i Gaerfyrddin, o Abermaw i Riwabon (ar hyd ddyffrynnoedd Mawddach a Dyfrdwy) ac o Fangor i Bwllheli (ar draws Arfon a Phenrhyn Llŷn).[2]