Enghraifft o: | techneg mewn celf |
---|---|
Math | argraffu cerfweddol, engrafio ar bren, printing process |
Cynnyrch | torlun pren |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Techneg argraffu cerfweddol yw torlun pren. Mae arlunydd yn tynnu llun ar wyneb darn gwastad o bren – y bloc – ac yna mae'n cerfio i ffwrdd yr ardal o gwmpas y delwedd. (Weithiau mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud gan grefftwr arbenigol.) Mae'n incio'r ddelwedd, sy'n sefyll yn glir o'r wyneb yn awr, yn gosod darn o bapur ar y bloc, a'i wasgu i lawr. Dim ond y ddelwedd ar yr wyneb uchel yn cael ei throsglwyddo i'r papur.
A bod yn fanwl gywir, mewn torlun pren, torrir y bloc ar hyd graen ochr y bloc; pan dorrir y bloc ar raen ben y bloc, y canlyniad yw engrafiad pren. Yn gyffredinol, gall engrafiad pren gynnwys mwy o fanylion na thorlun pren. Fodd bynnag, yn aml mae angen llygad craff i weld y gwahaniaeth rhwng y ddau fath.
Dim ond ychydig o bwysau sydd ei angen i argraffu o dorlun pren. Mae hyn yn wahanol i dechnegau argraffu intaglio fel ysgythru ac engrafio, sydd angen rhyw fath o wasg argraffu.
Yn Ewrop, defnyddiwyd sawl math o bren ar gyfer y bloc, gan gynnwys pren bocs a phren ffrwythau (pren gellyg neu bren ceirios, er enghraifft); yn Japan, defnyddiwyd pren y rhywogaeth geirios Prunus serrulata.